Hanes Llangrannog
Cylchlythyr
Busnesau Lleol
Cysylltiadau Llangrannog
Lletyau 1
Lletyau 2
Lletyau 3
Tywydd / Amserlen Llanw
Oriel Ffoto 1
Oriel Ffoto 2
Oriel Ffoto 3
Oriel Ffoto 4
Cysylltiadau Cymru
Cranogwen
Amserlen Bysiau

 

 

 Sarah Jane Rees ('Cranogwen')

'Morwr; Bardd; Cerddor; Pregethwr;

Arweinydd Dirwest'

1839 - 1916.

Llyfr 'Cranogwen' 'Portread newydd' wedi ysgrifennu gan Gerallt Jones o Caerwedros yn 1980  cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer Llandysul yn 1981.

ISBN 0 85088 664 3

Llyfr arall 'Cofiant Cranogwen', wedi ysgrifennu gan y Parchedig D G Jones o Pontardawe wedi gyhoeddi yn 1932.

Yr oedd y ddau lyfr yn yr iaith Gymraeg ac allan o brint ers blynyddoedd.

Clic uwchben i weld y llun yn maint llawn.

Clic uwchben i weld y llun yn maint llawn.

 

Mae bedd  Cranogwen yn  mynwent Eglwys Sant Caranog.

 

Cranogwen oedd enw barddonol Sarah Jane Rees ac yn 1865 yr oedd yn fenyw gyntaf  i ennill y gadair  Eisteddfod Frenhinol Cenedlaethol Aberystwyth ac yn 1873, ennilloedd y gadair yn Eisteddfod Aberaeron

Rhodd Cranogwen y Gadair i gapel Bancyfelin ac am flynyddoedd yr oedd yn y Pulpud. Ar ol i gapel Bancyfelin i gau yn 1995 fe symud y Gadair i gapel Penmorfa gerllaw Penbryn.

Mae'r llyfr newydd, 'Stori Llangrannog' (yn saesneg), wedi cyflwyno pennod i Cranogwen.

Sarah Jane Rees (Cranogwen, 1839-1916)....

 

CRANOGWEN (Sarah Jane Rees 9.01.1839 - 27.06.1916)Capten Llong; Athrawes Forwriaeth ac Ysgolfeistres leol; Golygydd, Awdures ac Enillydd Coron Eisteddfod 1865; Pregethwraig.

Un o amcanion ei bywyd oedd annog menywod i’w datblygu eu hunain mewn oes pan priodi (a bod yn fam), neu fod mewn gwasanaeth fu’r prif lwybrau oedd yn agored iddynt. Amlygid ei hawydd hyfforddi gan y ffordd y dysgai forwriaeth i longwyr, darllen ac ysgrifennu i blant, a sol-ffa i egin gerddorion. Ar ben hyn, bu’n bregethwraig a dysgai yn yr Ysgol Sul. Bu hefyd yn gapten llong ei hun.

Dywedwyd i bobl wneud beth bynnag a fynnodd Cranogwen - ni feiddiai neb anufuddhau iddi. Gallwn dybio i sicrwydd bod hyn yn wir - nid oedd neb yn gwrthwynebu pan âi â’i chi bach i bregethu yn y Capel!

Saif ei chofeb yng nghefn mynwent Eglwys Sant Carannog. (Wrth fynd allan o’r eglwys, trowch i’r dde, ac i’r dde eto’n syth.  Ym mhen uchaf y fynwent, gwelwch fedd teuluol y Reesiaid.)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Darllen pellach

‘Cranogwen: Portread Newydd’ gan Gerallt Jones (Llandysul, 1981)

‘Cofiant Cranogwen’ gan D.G.Jones (Caernarfon, 1932)

‘The Dictionary of Welsh Biography down to 1940’ (Llundain, 1959)

‘Recollections of Cranogwen’ gan J.N.Crowther, Welsh Gazette 25/5/27

‘Our Mother’s Land. Chapters in Welsh Women’s History’ gan Angela John (Caerdydd, 1991)

‘A Woman Ahead of Her Time’ gan David W.James, Country Quest, Chwef. 1989

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ganwyd Sarah Jane Rees ger Llangrannog ym 1839, yr ifancaf o dri o blant, a’r unig ferch. Credai ei thad, y capten llong John Rees, a’i mam, Frances, y dylai eu merch dderbyn cymaint o addysg â’u meibion. Nid oedd hyn yn hawdd mewn ardaloedd gwledig lle roedd arian yn brin, felly yn Ysgol Sul y Capel y derbyniodd ei haddysg gyntaf. Yno y dysgodd ddarllen ac ysgrifennu, ond ar yr un pryd treuliai ddiwrnodau yr wythnos yn chwarae ar y traeth, yn chwilota ymysg y cychod a’r creigiau, ac yn mentro ymhellach yn ei ‘dull annibynnol iawn’ a ddaeth yn rhan mor nodweddiadol ohoni.

Pan ddechreuodd yn yr ysgol, bu’n awchus am wybodaeth, a darllenodd bopeth a gâi. Fe’i hanogid gan ei hathro, Hugh Davies, a adawai iddi ddarllen pob llyfr o’i eiddo. Ond yn yr oes honno, anghenion ei brodyr a ddaeth gyntaf, ac yn 13 oed fe’i hanfonwyd i Aberteifi, 12 milltir i ffwrdd, i ddysgu gwnïadyddiaeth. Dychwelodd adref yn fuan iawn - nid oedd nodwyddau a hithau'n gweddu i'w gilydd. Yn lle hynny, penderfynodd Sarah Rees fynd i’r môr gyda’i thad.

Bu John Rees yn gapten ar fadlong nwyddau a hwyliai o borthladd Llangrannog. Fel arfer, byddai’i fordeithiau’n fyr - i Lerpwl, Abertawe neu i Lanelli, ac ambell waith i Ffrainc neu’r Iseldiroedd. Gan beri syndod i’w cymdogion, gadawodd i Sarah fynd gyda fe am y ddwy flynedd nesaf. Yn ystod yr cyfnod hwn, meistriolodd hanfodion morwriaeth a ddysgai i eraill yn ddiweddarach.

Erbyn 1854, pan oedd yn 15 oed, gallai’i brodyr eu cynnal eu hunain, ac aeth Sarah yn ôl i’r ysgol, gan synnu pawb unwaith eto. Astudiai yng Nghei Newydd, Lerpwl a Llundain, gan ehangu’i gwybodaeth o Ladin a morwriaeth, ac ennill ei thystysgrif Capten a’i galluogodd i hwylio i bob rhan o’r byd.

Yn 21 oed (ym 1860), daeth yn ysgolfeistres ym Mhontgarreg, lle roedd ei chyn-athro Hugh Davies wedi gorffen ei yrfa. Yma dechreuodd Sarah ddysgu morwriaeth i longwyr, gan eu galluogi i ennill eu tystysgrifau. Yn ddiweddarach, fe’u gelwid yn ‘Gapteniaid Cranogwen’, ar ôl iddi gymryd ei henw barddol ym 1865. Yn ogystal â dysgu morwriaeth, bu hefyd yn dysgu sol-ffa.

Yn ystod 1865, cyflwynodd delyneg i Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, ac ennill y goron. Daw ei henw barddol “Cranogwen” o Sant Carannog, yr enwyd Llangrannog ar ei ôl, ac y mae’i ogof a’i eglwys yn y pentref. Yn dilyn hyn, dechreuodd Cranogwen ddarlithio’n gyhoeddus a phregethu, gan deithio nid yn unig yng Nghymru ond at y Cymry yn America hefyd. Yn ogystal, sefydlodd Obeithlu y mudiad dirwest yng Nghapel Bancyfelin yn Llangrannog (tŷ preifat erbyn hyn), a lledu’r gwaith hwn ledled Cymru.

Oherwydd ei gofal am les menywod, sefydlodd gylchgrawn Cymraeg, ‘Y Frythones’, er eu buddiannau. Nid yn unig y bu’n olygydd arno, ond ysgrifennai lawer ohono ei hun: cynhwysid erthyglau am deithio, cyngor ‘modryb ofidiau’, cofiannau pobl enwog, i gyd wedi’u hysgrifennu ganddi. Serch hynny, bu erthyglau ffasiwn islaw ei hurddas!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y diwedd, rhoes Cranogwen y gorau i’r gwaith hwn er mwyn canolbwyntio ar ei phregethu ac ar les moesol yn ardaloedd diwydiannol De Cymru, gan sefydlu Undeb Dirwestol Merched y De ym 1901.


Cydnabyddiaeth: Diolch i Roy Tarbutt o 'Arfryn' am fenthyg llyfr 'Cranogwen', gan Gerallt Jones.

Cydnabyddiaeth: Diolch i Philippa Gibson am y gyfieithiad o'r  Saesneg.


Dyweddariad 18/01/2019